Adref
 

Noddi

Felly os ydych chi am fy noddi i gerdded y 125 milltir o amgylch Ynys Môn a rhoi i'r gwaith pwysig mae LATCH yn ei wneud byddwn i a phawb sy'n buddio o'r gwaith yn ddiolchgar iawn.

Mae sawl peth gallech wneud a fyddai o gymorth i ni. Gallwch chi rhoi nawr trwy wefan www.justgiving.com/llion. Ond er mwyn defnyddio eu gwasanaeth nhw mae'r wefan yn cymryd 5% o bob rhodd. Felly os ydych chi am sicrhau fod 100% o'ch arian yn mynd at yr elusen gallwch lawrlwytho'r ffurflen yma a'i anfon gyda siec yn daladwy i LATCH i'r cyfeiriad;

11 Coedlan Syr Dafydd
Treganna
Caerdydd
CF5 1GH

Neu cysylltwch â mi drwy e-bostio latch@llion.co.uk i drefnu rhyw ffordd arall.

Pa bynnag ffordd rydych chi'n dewis fy noddi, os ydych chi'n drethdalwr, cofiwch nodi eich bod chi'n hapus i fod yn rhan o'r cynllun 'rhodd cymorth'. Mae hyn yn galluogi LATCH i gael 28c yn ychwanegol am bob punt rydych chi'n ei roi heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

Gallwch chi hefyd lawrlwytho'r ffurflen noddi yma a mynd ag ef at eich capel/ysgol/gwaith/tafarn/tŷ Anti Jill a.y.y.b er mwyn codi cymaint o arian ag sy'n bosib. Os ydych yn gwneud hyn cysylltwch a mi er mwyn trefnu casglu'r rhoddion. Cofiwch ofyn i bobl ymuno a'r cynllun 'rhodd cymorth'.

Os ydych chi wir yn teimlo'n frwdfrydig dros be sy'n cael ei wneud gallwch chi hyd yn oed ymuno â mi ar y daith. Gallwch chi ymuno am yr holl beth neu ond am ddiwrnod neu ddau, beth bynnag hoffech chi. Gan taw ond bras syniad o'r dyddiadau sydd gen i, os ydych chi'n bwriadu ymuno am unrhyw ran o'r daith cysylltwch â mi o flaen llaw er mwyn i ni drefnu cwrdd. Cofiwch lawrlwytho'r ffurflen noddi os ydych chi am ymuno ar y daith.