Adref
 

Y Daith

Ar hyd y daith fyddai naill ai yn gwersylla neu'n aros mewn hostelau, B&Bs neu tafarndai ar hyd y ffordd (h.y. unrhyw le y galla i rhoi fy mhen lawr).

Rwy wedi cael yr awydd i gerdded un o'r llwybrau arfordirol ers sawl blwyddyn (h.y. Sir Benfro, Penllyn neu Ynys Môn). Ond nawr yw'r tro cyntaf i mi gael digon o amser i allu gorffen un yn ei gyfanrwydd.

Rhaid i mi gyfaddef, er cystal rwy'n teimlo fy mod i'n nabod Cymru rwy wedi esgeuluso Ynys Môn dros y blynyddoedd. Felly rwy wedi penderfynu y byddai'n cymryd rhyw bythefnos i fynd o gwmpas er mwyn cael cyfle i ymweld â llefydd a gwneud pethau ar hyd y ffordd. Felly os oes gyda chi unrhyw awgrymiadau o bethau y galla i wneud ar yr ynys gadewch eich syniadau ar y negesfwrdd y grŵp facebook. Gwelwch y map isod am drywydd y llwybr.

crwydromon.com

Nesaf >