Adref
 

Cerdded Môn dros blant sydd a Chancr

Ym mis Gorffennaf (14eg-27ain) fe fydda i'n cerdded llwybr arfordirol Ynys Môn i gyd (125 milltir), er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen LATCH sydd yn gweithio i helpu plant â chancr neu leukaemia yng Nghymru.

If you would like to read this page in english click the flag on the right.

Llion a Luned

Fel mae nifer ohonoch chi sy'n fy nabod i yn gwybod eisoes - llynedd cafodd fy chwaer ddiagnosis fod ganddi y cancr osteosarcoma yn ei choes.

Fel y gallwch chi ddychmygu roedd y newyddion yn sioc enfawr a dros y misoedd oedd i ddilyn cafodd ein bywydau, fel teulu, eu trawsnewid. Ers y diagnosis hynny rydw i wedi dod nol o Lundain er mwyn gofalu am fy chwaer ac rydym ni mwy neu lai wedi bod yn byw yn yr ysbyty lle roedd hi'n cael ei thriniaeth.

Gan ein bod ni'n byw yng Nghaerdydd roedden ni'n lwcus taw'r ysbyty hynny oedd un y Mynydd Bychan (yr Heath), safle yr ysbyty newydd 'Ysbyty Plant Cymru'. Pan oeddwn i'n dal yn ysgol Glantaf yn aml byddai gweithgareddau yn cael eu cynnal i godi arian ar gyfer sefydlu'r ysbyty. Roedd e'n deimlad rhyfedd meddwl am yr holl droeon hynny a nawr gweld sut y cafodd yr arian ei ddefnyddio.

Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i'r holl staff hynny a fuodd, ac sydd yn parhau i fod yn gymaint o gymorth i ni fel teulu.

Ysbyty Plant Cymru

Ysbyty Plant Cymru

Wrth i mi ysgrifennu hwn (yn nechrau mis Mai) mae fy chwaer yn dal i dderbyn triniaeth Chemo a rydyn ni dal i dreulio mwy o amser yn yr ysbyty nag yn unman arall. Ond erbyn i mi ddechrau fy nhaith dylai'r driniaeth Chemo fod wedi'i orffen. Ond nid hynny fydd diwedd y driniaeth na chwaith y berthynas gyda'r ysbyty. Pob tro bydd hi angen gweld GP neu hyd yn oed deintydd dros y dwy flynedd nesaf bydd angen dychwelyd i'r Mynydd Bychan. Felly mae'n amlwg pa mor bwysig yw e i ni fod gan y staff bopeth sydd ei angen i rhoi'r driniaeth orau bosib iddi hi. Rhaid hefyd cofio taw dim ond un enghraifft yw fy chwaer o'r nifer o blant sy'n cael eu trin ar y ward bob dydd. Ac er y dylai'r llywodraeth fod yn gallu rhoi pob cyfle i'r plant yma wrth ddarparu'r offer/staff/meddyginiaeth orau nid dyma yw realiti y sefyllfa oherwydd cyfyngderau cyllidol.

Prosthesis titaniwm rhoddwyd yn lle'r asgwrn

Prosthesis titaniwm rhoddwyd yn lle'r asgwrn

Sgan peledr-x o'r prosthesis titaniwm

Sgan peledr-x o'r prosthesis titaniwm

Dyma pam rydw i wedi penderfynu codi arian drwy elusen LATCH yn benodol ar gyfer y gwaith meddygol sy'n cael ei wneud ar y ward oncoleg yn Ysbyty Plant Cymru.

Sefydlwyd LATCH dros chwarter canrif yn ôl i helpu plant â chancr neu Leukaemia. Fydd pob plentyn o Dde Cymru sy'n dioddef o hyn yn cael eu gweld yn Ysbyty Plant Cymru yn y Mynydd Bychan. Oherwydd ein profiadau ni rydym wedi penderfynu yr hoffwn weld yr arian rwy'n ei gasglu yn cael ei wario ar gyfer offer newydd, helpu cael aelodau staff ychwanegol neu ymchwil cancr. Ond mae gwaith LATCH yn lawer ehangach na hyn, maent yn rhoi llawer o gefnogaeth ymarferol i deuluoedd sy'n cael eu effeithio gan yr afiechyd. Os hoffech fwy o wybodaeth am waith yr elusen ewch at www.latchwales.org

Nesaf >